Yunus Emre | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1241 ![]() Asia Leiaf ![]() |
Bu farw | 1321 ![]() Asia Leiaf ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, cyfrinydd ![]() |
Bardd gwerin Twrcaidd a chyfriniwr Islamaidd Twrcaidd oedd يونس امره, Yunus Emre (ynganiad Twrceg: [juˈnus emˈɾe]) a adnabyddir hefyd fel Derviş Yunus ('Yunus y Dervish') (1238–1328).[1] Ei enw, Yunus, yw'r hyn sy'n cyfateb Twrcaidd i'r enw Cymraeg, Jonah. Ysgrifennodd mewn Twrceg Hen Anatolia, cyfnod cynnar yr iaith Twrceg. Pasiodd Cynhadledd Gyffredinol UNESCO yn unfrydol benderfyniad yn datgan 1991, sef 750 mlynedd ers geni'r bardd, yn Flwyddyn Ryngwladol Yunus Emre.[2]
Enwir sefydliad er hyrwyddo iaith a diwylliant Twrci yn fyd-eang yn Yunus Emre Enstitüsü (Sefydliad Yunus Emre) ar ei ôl fel parch a dathliad ohono.